Fy enw i ydy Paul Davies. Rwy’n Aelod Cynulliad (AC) Preseli Sir Benfro.
Dywedodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y gallwn geisio cael deddf awtistiaeth newydd i Gymru. Bil Awtistiaeth (Cymru) fydd enw'r ddeddf yma.
Er mwyn fy helpu i ysgrifennu’r Bil Awtistiaeth (Cymru) fe wnes i ofyn i bobl am eu syniadau. Fe wnes i ofyn beth roedden nhw’n feddwl ddylai fod ynddo. Mae eu hymatebion wedi'u rhestru fel ymatebion i'r ymgynghoriad cyntaf are y Bil Awtistiaeth.
Byddai'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth awtistiaeth a chanllawiau ar gyfer defnyddio'r Bil. Mae gan Lywodraeth gyfredol Cymru eisoes Gynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, ond byddai'r Bil yn sicrhau y byddai strategaeth awtistiaeth bob amser, hyd yn oed os byddai'r llywodraeth yn newid.
Fe wnes i ddefnyddio beth roedd pobl wedi’i ddweud i ysgrifennu Bil drafft. Nawr fe hoffwn i chi ddarllen y drafft cyntaf. A dweud beth rydych yn ei feddwl amdano.
Gallwch ddweud wrthyf beth ydych chi'n ei feddwl am unrhyw ran ohono (dyma’r olaf o’r 19 cwestiwn yn yr arolwg hwn). Ond mae rhai pethau y byddwn wir yn hoffi clywed eich barn yn eu cylch. Rwyf wedi ysgrifennu ambell gwestiwn am y pethau hyn. Gallwch ateb cymaint o’r cwestiynau ag yr hoffech.
Am fanylion llawn ynghylch sut y defnyddir y wybodaeth yr ydych yn ei rhoi, darllenwch bolisi preifatrwydd Bil Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r cwestiynau hyn ynghylch tudalen 5 yn y fersiwn hawdd ei deall o'r 'Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft', neu adran 7(1) o'r Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft.
Dywedodd pobl y gallai'r Bil Awtistiaeth (Cymru) dynnu cefnogaeth oddi wrth anhwylderau niwroddatblygiadol eraill.
Rwyf eisiau gwneud yn siŵr nad ydy’r Bil yn tynnu cefnogaeth oddi wrth anhwylderau niwroddatblygiadol eraill.
Ac felly, mae’r Bil drafft yn dweud bod anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn meddwl:
− beth bynnag mae Corff Iechyd y Byd yn ddweud mae anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn meddwl; ac
− unrhyw anhwylderau niwroddatblygiadol eraill y mae Llywodraeth Cymru yn ddweud a ddylai gael eu trin yn yr un ffordd ag awtistiaeth.
Mae hyn yn meddwl os ydy Llywodraeth Cymru yn credu y dylai’r Bil helpu pobl gydag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill, maen nhw’n gallu gwneud iddo wneud hynny.
□ Ydw
□ Nac Ydw
□ Ddim yn siŵr
Gallwch egluro eich ateb os hoffech:
□ Ydw
□ Nac Ydw
□ Ddim yn siŵr
Gallwch egluro eich ateb os hoffech:
Mae'r cwestiwn hwn ynghylch tudalen 7 yn y fersiwn hawdd ei ddarllen o'r 'Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft', ac adran 7(1) o'r Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft.
Mae’r Bil drafft yn dweud y dylai awdurdodau lleol a’r GIG wneud beth mae’r strategaeth a’r canllaw am y Bil yn ei ddweud.
Mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer hefyd i ddweud y dylai cyrff eraill ddilyn y strategaeth a’r canllaw i’r Bil.
□ Oedd
□ Nac oedd
□ Ddim yn siŵr
Gallwch egluro eich ateb os hoffech:
Mae'r cwestiwn hwn ynghylch tudalen 7 yn y fersiwn hawdd ei deall o'r 'Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft', ac adran 4 o'r Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft.
Mae’r Bil drafft yn dweud y dylai awdurdodau lleol a’r GIG:
− meddwl am y strategaeth awtistiaeth pan maen nhw’n gwneud eu gwaith. Fe fydd y strategaeth yn dweud sut i ateb anghenion pobl gydag anhwylder sbectrwm awtistiaeth.
− meddwl am y canllaw pan maen nhw’n gwneud eu gwaith. Fe fydd y canllaw yn esbonio sut i ddilyn y strategaeth awtistiaeth.
Efallai y bydd y Bil yn cael ei newid i roi pŵer ychwanegol i Lywodraeth Cymru i ddweud wrth awdurdodau lleol a’r GIG beth i’w wneud.
Fe fydden nhw’n defnyddio’r pŵer yma os oedden nhw’n meddwl nad oedd y strategaeth a’r canllaw i’r Bil yn cael eu dilyn.
Ond dydy’r pŵer yma ddim fel rheol yn cael ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth oni bai fod angen amlwg amdano.
□ Ie
□ Na
□ Ddim yn siŵr
Gallwch egluro eich ateb os hoffech:
Mae’r Bil drafft yn dweud:
− Fe ddylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu strategaeth awtistiaeth. Fe ddylai gael ei ysgrifennu o fewn 6 mis i’r amser y mae’r Bil yn dod yn gyfraith.
− Fe ddylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu canllaw am ddilyn y strategaeth awtistiaeth. Fe ddylai gael ei ysgrifennu o fewn 3 mis i’r amser y mae’r strategaeth awtistiaeth yn cael ei ysgrifennu.
− Os ydy’r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar y Bil, yna fe fydd y ddeddf yn cychwyn 3 mis wedyn.
Mae'r cwestiynau hyn ynghylch tudalennau 11 i 13 yn y fersiwn hawdd ei darllen deall o'r 'Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft', ac adran 2(1) o'r Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft.
Diagnosis ydy pan mae tîm o bobl yn gweithio allan os oes gan berson anhwylder sbectrwm awtistiaeth.
Mae’r Bil drafft yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru ysgrifennu strategaeth awtistiaeth. Rhaid i’r strategaeth helpu pobl i gael diagnosis o awtistiaeth mor fuan â phosibl.
Mae’r Bil drafft yn dweud y dylai diagnosis ddigwydd mor fuan â phosibl, ac o fewn yr amserlenni sydd wedi eu hysgrifennu yn y canllawiau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.
Mae hyn yn meddwl y byddai unrhyw newidiadau i’r canllawiau a nodwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn newid amserlenni’r strategaeth awtistiaeth ar gyfer diagnosis.
Mae’r Bil drafft hefyd yn dweud bod rhaid i berson gael asesiad pan mae person yn cael diagnosis.
Asesiad ydy pan mae rhywun yn edrych ar ba gefnogaeth mae person (ag anhwylder sbecrwm awtistiaeth) ei hangen.
Mae’r Bil drafft yn dweud y dylai hyn ddigwydd mor fuan â phosibl, a rhaid iddo ddigwydd o fewn 2 fis i gael diagnosis.
□ Ie
□ Na
□ Ddim yn siŵr
Gallwch egluro eich ateb os hoffech:
□ Oedd
□ Nac oedd
□ Nid wyf yn siŵr
Gallwch egluro eich ateb os hoffech:
Mae'r cwestiynau hyn ynghylch tudalennau 19 i 21 yn y fersiwn hawdd ei darllen deall o'r 'Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft', ac adran 3(6) o'r Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft.
Mae’r Bil drafft yn dweud y dylai tîm o bobl fod yn cymryd rhan wrth wneud diagnosis i berson gydag anhwylder sbectrwm awtistiaeth.
Mae’r Bil drafft yn rhoi enghreifftiau o’r math o bobl allai fod yn y tîm. Dyma nhw:
− Seicolegydd.
− Seiciatrydd.
− Therapydd Iaith a Lleferydd.
− Therapydd Galwedigaethol.
− Therapydd Ymddygiad.
− Gweithiwr Cymdeithasol.
□ Ie
□ Na
□ Ddim yn siŵr
Gallwch egluro eich ateb os hoffech:
Mae'r cwestiwn hwn ynghylch tudalen 13 yn y fersiwn hawdd ei darllen deall o'r 'Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft', ac adran 2(1)(f) o'r Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft.
Mae’r Bil drafft yn dweud na ddylai pobl gael eu troi i ffwrdd o wasanaethau oherwydd pethau fel lefel eu dealltwriaeth, sy’n cael ei alw’n IQ, neu oherwydd bod ganddyn nhw salwch.
Mae'r cwestiynau hyn ynghylch tudalen 23 yn y fersiwn hawdd ei darllen deall o'r 'Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft', ac adrannau 3(6)(d) a 5 o'r Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft.
Mae’r Bil drafft yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth am bobl gydag anhwylder sbectrwm awtistiaeth.
□ Ie
□ Na
□ Ddim yn siŵr
□ Fe ddylai gael ei ysgrifennu ar y Bil.
□ Fe ddylai gael ei ysgrifennu yn y canllaw.
□ Ddim yn siŵr
Gallwch egluro eich ateb os hoffech:
□ Ie
□ Na
□ Ddim yn siŵr
Gallwch egluro eich ateb os hoffech:
Mae'r cwestiynau hyn ynghylch tudalen 24 yn y fersiwn hawdd ei darllen deall o'r 'Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft', ac adran 6(1) o'r Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft.
Mae’r Bil drafft yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru godi ymwybyddiaeth am anghenion pobl gydag anhwylder sbectrwm awtistiaeth pan fydd y strategaeth awtistiaeth wedi cael ei hysgrifennu. Rhaid iddyn nhw ddal i wneud hyn.
Mae hyn yn meddwl y byddai Llywodraeth Cymru bob amser yn helpu pobl i ddeall anghenion pobl gydag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn well.
Ffordd wahanol o ysgrifennu’r Bil ydy y gallai ddweud y dylai godi ymwybyddiaeth o leiaf bob tair blynedd.
□ Fe ddylai ddigwydd drwy’r amser.
□ Fe ddylai ddigwydd bob 3 blynedd.
□ Ddim yn siŵr
Gallwch egluro eich ateb os hoffech:
Mae'r cwestiynau hyn ynghylch y fersiwn hawdd ei darllen deall o'r 'Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft' drwyddi draw, a holl adrannau'r Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft.